Siwmper Nadolig Ho Ho Homo!
Gwisgwch hwyl yr ŵyl yn ein siwmper Nadolig Ho Ho Homo!- yr unig siwmper wen sy’n siŵr o serennu yn eich dillad i’r gaeaf, mae’n lledaenu ychydig o hwyl cwiar lle bynnag rydych chi’n mynd. Ta waeth os rydych chi’n mwynhau siocled poeth, yn osgoi sgyrsiau lletchwith gyda’r teulu, neu’n dangos eich plu yn y parti Nadolig, dyma’r siwmper gamp, glyd a chyfforddus i chi.
Crëwyd ar y cyd rhwng More Than Flags and Rainbowsa chlwb rygbi hoyw Llewod Caerdydd, mae’r siwmper hon o rediad cynhyrchu cyfyngedig yn edrych yn wych ac yn gwneud gwaith gwych. Mae pob ceiniog o’r elw yn mynd yn syth at fynd i’r afael â bwlio a hybu cynhwysiant mewn chwaraeon, yn helpu pobl ifainc i deimlo’n falch, wedi’u cefnogi ac wedi’u dathlu trwy’r flwyddyn i gyd.
Nadoligaidd. Doniol. Ffyrnig.
Gwisgwch hi, disgleiriwch yn ddiymddiheurad, a helpwch ni i wneud y byd yn lle mwy cynhwysol - un siwmper hwyliog ar y tro.





















