Gweithdai Disgyblion
Os rydych chi'n clywed brawddegau megis "Mae hynny mor gay", yn gweld rhagfarnau'n mynd heb eu herio neu eisiau i ddisgyblion ddeall gwahaniaeth a pharch yn well, mae ein gweithdai wedi'u dylunio i gael effaith barhaus.
Mae ein gweithdai'n cael eu datblygu a'u darparu gan addysgwyr profiadol, maen nhw'n helpu disgyblion i archwilio hunaniaeth, herio ystrydebau, deall dylanwad geiriau a datblygu'r hyder i sefyll yn erbyn bwlio.
Mae pob sesiwn yn addas i'r oedran, yn atyniadol ac wedi'i deilwra i anghenion eich ysgol, ta waeth os rydych chi am ddatrys pryderon penodol neu gryfhau'r diwylliant ehangach o gynhwysiant.
Ar gael i ysgolion cynradd ac uwchradd, colegau, a sefydliadau arbennig ar draws y DU trwy gyfrwng y Saesneg a'r Gymraeg.
I ysgolion arbennig, byddwn ni'n trefnu ymweliad i ddod ac adnabod eich disgyblion yn gyntaf, er mwyn i ni ddeall eu hanghenion a phenderfynu ar y dull gorau.
Sut i archebu
Cliciwch un o'r botymau isod i drefnu galwad am sgwrs am sut gallwn ni weithio gyda'n gilydd, neu llenwch y ffurflen i archebu eich gweithdy nawr. Os rydych chi'n archebu gweithdai ym misoedd Medi neu Hydref cyn diwedd mis Gorffennaf, cewch chi ostyngiad o 50%.

