top of page

I Deuluoedd

Ym More Than Flags and Rainbows, rydym ni’n gwybod bod teuluoedd gyda rhieni neu blant LHDTC+, neu deuluoedd mabwysiadu, yn gallu teimlo’n ynysig neu wedi’u hanwybyddu. Dyna pam rydym ni yma i’ch cysylltu, dathlu, a chefnogi chi. O gyngor ymarferol i ddigwyddiadau cymunedol hapus, rydym ni am i bob teulu deimlo’n weladwy a gwerthfawr.

Rhwydwaith Teuluoedd LHDTC+ a Mabwysiadu De Cymru

Lansiwyd ym Mawrth 2026, mae ein Rhwydwaith Teuluoedd newydd yn dod â rhieni a phlant ynghyd mewn digwyddiadau am ddim bob mis yn ne Cymru.

O ddringo i’r lle chwarae i bêl-droed i fwyd allan, bydd ein rhwydwaith yn dod â chi ynghyd â theuluoedd mabwysiadu a LHDTC+ eraill, a’ch cysylltu chi ag asiantaethau fel gwasanaethau cymdeithasol ac elusennau mabwysiadu, i roi’r cyngor sydd ei angen pan mae’n teimlo’n anodd.

Bwlio rhagflas
Mae fy mhlentyn yn cael eu bwlio
 

Mae’n gallu bod yn heriol iawn pan mae’ch plentyn yn dweud eu bod nhw’n cael eu bwlio yn yr ysgol. Rydym ni’n gwybod caiff bwlio ei daclo’n llawer mwy effeithiol pan gydweithia teuluoedd ac ysgolion.
 

I’ch helpu chi, rydym ni wedi creu’r canllaw am ddim hwn i’ch arwain trwy’r camau o sut i weithio gyda’r ysgol i daclo’r bwlio.

Cliciwch isod i lawrlwytho PDF neu archebu copïau papur.

Facebook & Instagram

Ymunwch â’n grŵp Facebook i sgwrsio â rhieni mabwysiadu neu LHDTC+ eraill a dilynwch ni ar Instagram i ddysgu am sut gallwn ni eich helpu chi a’ch teulu, ac am ein digwyddiadau nesaf.
  • Instagram
  • Facebook
Facebook & Instagram

Ymunwch â’n grŵp Facebook i sgwrsio â rhieni mabwysiadu neu LHDTC+ eraill a dilynwch ni ar Instagram i ddysgu am sut gallwn ni eich helpu chi a’ch teulu, ac am ein digwyddiadau nesaf.
  • Instagram
  • Facebook

Adnoddau i deuluoedd

Isod dewch chi o hyd i adnoddau i helpu eich teulu a dathlu'r amrywiaeth anhygoel o fewn iddo fe.

Mae 100% o'r elw yn mynd tuag at greu adnoddau gwrthfwlio ar gyfer teuluoedd ac ysgolion.

bottom of page