top of page

Polisi Preifatrwydd

Dyddiad Dod i Rym: 8fed o fis Awst 2025

Yn More Than Flags and Rainbows CBC, mae eich preifatrwydd yn flaenoriaeth i ni. Amlinella’r Polisi Preifatrwydd hwn sut rydym ni’n casglu, defnyddio, a gwarchod eich gwybodaeth bersonol wrth ymrwymo â ni trwy ein gwefan, cyfathrebiadau e-bost, cystadlaethau, holiaduron, a ffurflenni (boed ar-lein neu mewn person).

1. ​Y Wybodaeth Rydym Ni’n Ei Chasglu
Efallai byddwn ni’n casglu’r wybodaeth pan ymrwymir â ni:
•    Gwybodaeth Bersonol: Eich enw, cyfeiriad e-bost, manylion cyfathrebu, gwybodaeth ddemograffig, neu wybodaeth ganfyddadwy arall rydych chi’n ei darparu wrth gyflawni ffurflenni, holiaduron, cystadlu, tanysgrifio i’n rhestr e-bostio, neu gysylltu â ni.
•    Defnydd Data: Gwybodaeth am sut rydych chi’n ymrwymo â’n gwefan, megis ymweliadau tudalennau a’r amser a dreulir ar dudalennau.
•    Gwybodaeth y Ddyfais: Gan gynnwys y cyfeiriad IP, math o borwr gwe, a system weithredu, a gasglir i wella perfformiad y wefan.
•    Briwsion a Thechnolegau Olrhain: Defnyddiwn ni friwsion i wella gweithrediad y wefan a deall blaenoriaethau defnyddwyr. Gallwch chi analluogi briwsion trwy osodiadau eich porwr gwe.

2. Sut Rydym Ni’n Defnyddio Eich Gwybodaeth
Rydym ni’n defnyddio eich gwybodaeth i:
•    Weinyddu a rheoli cystadlaethau, gan gynnwys cysylltu ag enillwyr
•    Ddeall anghenion a diddordebau ein cwmni trwy holiaduron a ffurflenni
•    Ddarparu diweddariadau, adnoddau, a gwybodaeth trwy e-bost (yn unig drwy ddewis ymuno)
•    Wella ein gwasanaethau ac adnoddau trwy ddadansoddi adborth a thueddiadau defnydd
•    Gyflawni unrhyw orfodaethau cyfreithiol neu warchod yn erbyn gweithgareddau twyllodrus

Ni fyddwn ni byth yn rhannu’ch gwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliadau eraill heb eich caniatâd pendant.

3. Data gan Gystadlaethau a Holiaduron
Os cystadlwch chi neu gyflawni holiadur neu ffurflen i ni, byddwn ni’n defnyddio’ch data personol ar gyfer y diben penodol hwnnw yn unig, oni bai eich bod chi wedi dewis ymuno â derbyn cyfathrebiadau pellach. Efallai cysylltir ag enillwyr cystadlaethau yn uniongyrchol, ond ni rennir eu manylion yn gyhoeddus heb gydsyniad.
    
4. Diogelwch Data
Rydym ni’n ymroddedig i ddiogeli eich data. Mae mesurau corfforol, technolegol, a threfniadol addas mewn grym i atal mynediad anawdurdodedig, datgeliad, neu gamddefnydd o’ch data.

5. Eich Hawliau a’ch Dewisiadau
Mae gennych chi’r hawl i:
•    Ofyn am fynediad i’ch gwybodaeth bersonol amdanoch chi sydd gennym ni
•    Gywiro neu ddiweddaru’ch gwybodaeth
•    Dynnu cydsyniad neu ofyn am i ni ddileu eich data ar unrhyw adeg
•    Ddewis peidio â derbyn cyfathrebiadau e-byst trwy glicio’r ddolen dad-danysgrifio mewn unrhyw e-byst marchnata gennym ni.

I ymarfer eich hawliau, cysylltwch â ni trwy: hello@morethanflagsandrainbows.com

Newidiadau i’r Polisi Hwn
Mae’n bosibl i ni ddiweddaru’r Polisi Preifatrwydd hwn o dro i dro. Bydd y fersiwn diweddaraf bob amser ar gael ar ein gwefan, gyda’r dyddiad dod i rym yn amlwg weladwy.

Cysylltwch â ni
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon am sut rydym ni’n defnyddio eich data, cysylltwch â ni trwy: hello@morethanflagsandrainbows.com​

 

bottom of page