Cwestiynau Cyffredin
Dewch o hyd i'n cwestinyau mwyaf cyffredin isod
Faint rydych chi'n ei godi ar gyfer hyfforddiant?
Teilwrir ein costau yn arbennig ar gyfer eich ysgol. Rydym ni’n cadw costau’n isel trwy godi arian, ac yn y dyfodol rydym ni’n gobeithio cynnig rhai o’n gwasanaethau am ddim. Gallwch chi gefnogi ein gwaith trwy rannu ein gwefan a phrynu eitemau o’n siop lle mae 100% o’r elw yn mynd at atal bwlio mewn ysgolion.
Ble rydych chi'n darparu cefnogaeth a hyfforddiant?
Rydym ni’n darparu hyfforddiant a chefnogaeth ar draws y DU. Fel arfer gallwn ni deithio mewn person, ac rydym ni’n credu bod hyn yn llawer mwy effeithiol na hyfforddiant ar-lein.
Rydym ni hefyd yn darparu cefnogaeth ar gyfer ysgolion rhyngwladol, cysylltwch â ni i ddysgu mwy am sut gallwn ni eich helpu chi.
Ydych chi'n gwneud elw?
Fel CBC dim-er-elw, mae’r holl elw yn mynd yn ôl i mewn i’r sefydliad. Caiff hyn ei ddefnyddio i greu adnoddau ac i dalu ein hwyluswyr.
Beth ydy'ch dulliau diogeli?
Mae pob hwylusydd yn cael archwiliad DBS, ond fyddan nhw byth ar eu pen eu hunain gyda disgyblion. Os caiff unrhyw ddatguddiadau eu gwneud yn ystod gweithdy, caiff dulliau diogeli’r ysgol eu dilyn. Mae gan ein holl hyfforddiant ddiogeli wrth ei graidd; mae cyfrinachedd yn bwysig, ond os oes pryderon diogeli am oedolion neu blant, cymera’r rhain flaenoriaeth.
Pa gymhwysterau sydd gennych chi?
Mae ein holl hwyluswyr yn athrawon gyda SAC. Mae gan sawl un ohonyn nhw gymwysterau ychwanegol gan gynnwys graddau meistr, cymwysterau hyfforddi a phrofiad o weithio mewn ysgolion.
Mae gan ein sefydlydd Ian Statws Athro Cymwysedig, gradd meistr mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Addysg, ac mae ganddo fe achrediad mewn addysgu Addysg Cydberthnasau a Rhywioldeb, yn ogystal ag 20 mlynedd o weithio â phlant a phobl ifainc.
Beth ydy'ch dull ynglŷn â Hunaniaeth Rhywedd?
Mae’n hanfodol mewn cymdeithas ein bod ni’n herio ystrydebau rhywedd a sicrhau bod plant a phobl ifainc ddim yn teimlo bod eu dillad, hobïau neu olwg yn cael eu cyfyngu gan eu rhywioldeb neu’u rhywedd; mae hyn wrth graidd ein gwaith. Credwn ni mai yn y rhan fwyaf o achlysuron dim ond trafodaethau am hunaniaeth rhywedd ddylai gael eu cyflwyno yn yr Ysgol Gynradd pan fo angen, er enghraifft os oes disgybl traws yn y dosbarth neu os oes trafodaethau’n codi mewn gwaith arall. Serch hynny, efallai teimla rhai ysgolion cynradd fod cyflwyno’r derminoleg hon yn angenrheidiol yn eu carfanau. Mewn ysgolion uwchradd, mae’n bwysig bod pobl ifainc yn cael gwybodaeth amryfath, gan gynnwys bod rhai pobl yn gritigol o rywedd. Ddylai ysgolion byth bod yn ‘hyrwyddo’ hunaniaethau rhywedd neu unrhyw driniaethau sy’n berthnasol i hunaniaeth rhywedd. Ond trwy beidio â siarad am hunaniaethau rhywedd o gwbl, gellid gwadu hunaniaeth ddilys, ac mae’n bosib bod disgyblion yn teimlo heb eu cynrychioli’n ddigonol. Dylid darparu gwybodaeth gytbwys i bobl ifainc, a dylai pobl ifainc gael eu galluogi i benderfynu ar sut maen nhw’n uniaethu, ond hefyd cael eu gwneud i deimlo bod labeli ddim yn angenrheidiol; gallant nhw ddod i benderfyniad mewn amser.
