
Fforwm Cymraeg MTFAR
Prosiect peilot ydy Fforwm Cymraeg MTFAR sy’n cysylltu grwpiau LHDTC+ a grwpiau cynhwysol ysgolion uwchradd Cymraeg eu hiaith ledled Cymru.
Nod y fforwm ydy helpu creu adnoddau i wella cynhwysiant, cynrychiolaeth ac addysg am fateron LHDTC+ trwy gyfrwng y Gymraeg yn seiliedig ar brofiadau go iawn pobl ifainc Cymru.
Bydd hyn yn sicrhau bod pobl ifainc yn gweld eu hunaniaethau eu hunain yn cael eu hadlewyrchu o fewn i'w hysgolion, ac yn gallu eu trafod yn hyderus yn eu hiaith gyntaf.
Mae’n gyfle gwych i ddod â phobl ifainc Gymraeg o bob cornel y wlad at ei gilydd i adeiladu cymuned newydd sbon iddyn nhw ddathlu pwy ydyn nhw.
Buddion i ysgolion sy'n cymryd rhan

Trwy gymryd rhan yn y cynllun am ddim hwn, bydd eich ysgol yn cael • sesiwn cychwynnol mewn person i’r bobl ifainc sy’n cymryd rhan yn eich ysgol; • cyfarfodydd ar-lein rheolaidd gyda’r bobl ifainc eraill sydd yn y Fforwm Cymraeg; • mynediad i’n tîm o arbenigwyr i gael cyngor; • cyrsiau digidol byr i’ch helpu chi gyda’r pethau sylfaenol; • newyddion a diweddariadau am y prosiect; • copïau o’r adnoddau terfynol • gostyngiadau arbennig ar gyfer gwasanaethau a chynhyrchion eraill MTFAR.
Cwestiynau Cyffredin
Cliciwch yma ar gyfer cwestiynau cyffredin am y Fforwm Cymraeg.
