top of page

Cefnogwch ni

Sefydliad dim-er-elw ydy More Than Flags and Rainbows a arweinir gan bobl sy’n gwybod eu hunain am y niwed a allai gael ei wneud gan fwlio. Mae ein profiad yn gyrru popeth a wnawn ni i wneud ysgolion yn fwy diogel a chynhwysol i bob plentyn. Rydym ni’n dibynnu ar gefnogwyr fel chi i helpu cadw a chynnal ein gwaith - boed trwy roi amser neu arian, neu drwy godi ymwybyddiaeth. Felly gyda’n gilydd, gallwn ni greu newid parhaus a helpu pob plentyn a pherson ifanc i deimlo’n ddiogel, wedi’u gweld ac wedi’u cefnogi.

Cefnogwch ein gwaith a chewch gyfle i ennill gwobrau trwy chwarae’r Rainbow Lottery o £1 yr wythnos.

 

Mae pob tocyn a brynwch chi yn ein helpu ni i wneud ysgolion yn fwy diogel a chynhwysol i bob plentyn. Mae’n ffordd hwyl a hawdd o roi’n ôl gyda’r siawns o ennill rhywbeth hudolus i chi eich hun hefyd.

image.png
IMG_7670.jpeg

O helpu gyda digwyddiadau Balchder i’r cyfryngau cymdeithasol, mae’ch sgiliau a’ch brwdfrydedd yn helpu gwneud gwahaniaeth.

 

Trwy gyfrannu’ch amser neu siarad am ein gwaith, byddwch chi’n helpu ni i gyrraedd mwy o ysgolion, teuluoedd a chymunedau, yn sicrhau bod plant ddim yn ofni bwlio.

Cliciwch yma i gofrestru

32c2f2cee13 (5) (1).png

Mae pob pryniant o’n siop Balchder yn cefnogi’n gwaith yn uniongyrchol, gyda 100% o’r elw yn mynd at ariannu ein gwaith.

 

O gyfwisgoedd lliwgar i anrhegion cynhwysol, mae’ch siopa’n gwneud gwahaniaeth. Hefyd gallwch chi gyfrannu’n uniongyrchol i helpu creu gofodau mwy diogel a chroesawgar i bob plentyn.

Gwnewch gyfraniad

Fel cwmni dim-er-elw, mae’r holl arian a gymerwn ni yn mynd yn ôl at helpu ysgolion a theuluoedd. Mae pob ceiniog a gyfrannwch chi yn helpu taclo bwlio LHDTC+ mewn ysgolion a chefnogi teuluoedd mabwysiadu wrth greu cysylltiadau a goroesi’r amseroedd anodd.
 
Diolch.

Frequency

One time

Monthly

Amount

£5

£10

£20

£50

Other

0/100

Comment (optional)

bottom of page