Siwmper Nadolig Gay for the Game
Byddwch yn barod i’r sgrym gyda Siôn Corn. Mae ein siwmper Nadolig Gay for the Game yn dangos y dyn ei hun yn chwarae’r gêm wych – yn profi ei fod e ddim yn dosbarthu anrhegion yn unig, mae’n dosbarthu cyfeillgarwch, agweddau da, a jôcs doniol.
Mae’r siwmper werdd glyd hon yn berffaith i unrhyw un sy’n caru Nadolig, caru rygbi, neu’n caru gweld Siôn Corn ar ei orau – yn byw ei fywyd athletig a chynhwysol i bobl gwiar. Gwisgwch hon i’r gêm, i’r dafarn, wrth ollwng y plant yn yr ysgol, neu yn y parti Nadolig – mae’n siŵr o ddwyn gwên.
Crëwyd hon ar y cyd rhwng More Than Flags and Rainbows a thîm rygbi hoyw Llewod Caerdydd, mae’r siwmper hon yn fwy na datganiad ffasiwn i’r gaeaf.
Mae pob elw yn mynd tuag at daclo bwlio mewn ysgolion a hybu cynhwysiant mewn chwaraeon, yn helpu ni i adeiladu cymunedau saffach a mwy clên i bobl ifainc.
Yn ddireidus a llawn faibs gwau Nain, mae’r siwmper hon wedi ymrwymo’n llawn i gynhwysiant.
Gwisgwch hi a dangoswch i’r byd eich bod chi 100% ac yn anniffyniadol Gay for the Game.





















