top of page

Telerau ac Amodau

Croeso i wefan More Than Flags and Rainbows CBC. Trwy ymweld â’n gwefan neu drwy archebu o’n siop, rydych chi’n cytuno gyda’r Telerau ac Amodau dilynol. Darllenwch nhw’n ofalus.

1. Amdanom Ni
Gweithredir y wefan hon gan:
More Than Flags and Rainbows CBC
E-bost: contact@morethanflagsandrainbows.com
Rhif y cwmni: 15653974

Trwy gydol y Telerau hyn, cyfeirir y geiriau “ni” ac “ein” at More Than Flags and Rainbows CBC.

2. Defnydd o’r Wefan​
Trwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych chi’n cadarnhau eich bod chi’n:
• Gallu mynd i mewn i gytundebau sy’n rhwymo mewn cyfraith.
• 18 mlwydd oed o leiaf, neu’n defnyddio’r wefan gyda chysyniad rhiant neu warchodwr.
Rydych chi’n cytuno i beidio â defnyddio’r wefan at unrhyw ddibenion anghyfreithlon neu mewn ffyrdd a allai ei niweidio neu amhari arni hi.

3. Cynhyrchion a Disgrifiadau
Rydym ni’n gwneud pob ymdrech i sicrhau bod disgrifiadau, lluniau a gwybodaeth o’n cynhyrchion yn gywir.
Serch hynny, gallai lliwiau ac ymddangosiad amrywio gan ddibynnu ar eich dyfais.
Mae’r holl gynhyrchion yn seiliedig ar argaeledd a gallent gael eu diweddaru neu’u tynnu ar unrhyw adeg.

4. Prisio
Caiff pob pris ei ddangos mewn Punnoedd Sterling Prydeinig (GBP/£). Rydym ni’n cadw’r hawl i ddiweddaru prisiau ar unrhyw adeg, ond nid effeithir archebion sydd eisoes yn bodoli.

5. Talu
Rydym ni’n derbyn taliadau ar-lein diogel trwy Wix Payments, gan gynnwys:
• Cardiau Credyd a Debyd (Visa, Mastercard, American Express, ac ati.)
• Apple Pay
• Google Pay
Mae rhaid cwblhau talu cyn i archeb allu cael eu cadarnhau. 

6. Eiddo Deallusol
Mae holl gynnwys y wefan hon - gan gynnwys testun, lluniau, graffigau, brandio, a dyluniadau cynhyrchion - yn eiddo i More Than Flags and Rainbows CBC.
Ni ellid ei gopïo, atgynhyrchu, neu ddefnyddio heb ganiatâd ysgrifenedig.

7. Preifatrwydd
Caiff eich gwybodaeth bersonol ei thrin yn gyson â’n Polisi Preifatrwydd.
Defnyddiwn ni eich data yn unig er mwyn prosesu archebion, cyfathrebu â chi, a gwella ein gwasanaethau.

8. Cyfyngiad Cyfrifoldeb
Nid ydym ni ddim yn gyfrifol dros unrhyw golled anuniongyrchol neu ganlyniadol trwy ddefnyddio ein gwefan neu’n cynhyrchion.


Nid ydy’r Telerau hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol.

9. Newidiadau i’r Telerau Hyn
Gallem ni newid y Telerau ac Amodau hyn ar unrhyw adeg. Bydd y fersiwn mwyaf diweddar bob amser ar gael ar y dudalen hon.

10. Cyfraith Lywodraethol
Caiff y Telerau ac Amodau hyn eu llywodraethau gan gyfreithiau Lloegr a Chymru. Bydd unrhyw anghydfodau yn destun awdurdodaeth anghynhwysol llysoedd Lloegr a Chymru.

11. Polisi Briwsion
Esbonia’r Polisi Briwsion hwn sut mae More Than Flags and Rainbows CBC yn defnyddio briwsion a thechnolegau tebyg ar ein gwefan.

11.1 Beth ydy Briwsion?
Ffeiliau testun bach a gedwir ar eich dyfais wrth ymweld â gwefan ydy Briwsion. Maent yn helpu’r wefan i weithio’n gywir, gwella’ch profiad pori, ac yn caniatáu i ni ddadansoddi perfformiad y wefan.

11.2 Mathau o Friwsion Y Gallem Ni Eu Defnyddio:

Briwsion Hanfodol:
Mae angen y rhain ar gyfer gweithrediadau craidd y wefan (e.e., talu’n ddiogel, llywio).

Briwsion Perfformiad a Dadansoddol:
Defnyddir y rhain i ddeall sut y defnyddia ymwelwyr ein gwefan ac i wella gweithrediad. Gallai’r rhain gynnwys briwsion o offer dadansoddol Wix.

Briwsion Ymarferoldeb:
Helpa’r rhain i gofio’ch dewisiadau, er enghraifft iaith neu ardal.

Briwsion Marchnata:
Defnyddir y rhain i fesuro effeithiolrwydd marchnata ac i ddangos hyrwyddiadau perthnasol. Rydym ni’n defnyddio’r rhain pan gânt eu caniatáu gan y gyfraith.

11.3 Rheoli Briwsion
Mae’r mwyafrif o borwyr gwe yn caniatáu i chi reoli neu ddileu briwsion yn y gosodiadau. Gallwch chi ddewis rhwystro briwsion, ond gallai hyn effeithio ar sut mae’r wefan yn gweithredu, yn enwedig nodweddion talu neu fewngofnodi.


Wrth ymweld â’n gwefan am y tro cyntaf, efallai ymddengys baner briwsion sy’n caniatáu i chi dderbyn neu reoli briwsion.

11.4 Briwsion Trydydd Parti
Gosodir rhai briwsion gan wasanaethau trydydd parti sy’n rhan o’n gwefan (megis darparwyr talu, offer dadansoddi, neu fewnblaniadau cyfryngau cymdeithasol).
Nid ydym ni’n rheoli’r briwsion hyn, a dylech chi adolygu’r polisïau trydydd parti perthnasol am fwy o wybodaeth.

bottom of page