Hyfforddiant Ysgolion
Gall nodi misoedd fel Mis Hanes LHDTC+ fod yn fan cychwyn gwych, ond mae cwricwlwm sydd wir yn gynhwysol yn dechrau o’r cychwyn cyntaf: yn y diwylliant, ethos a chynllunio. Dyma lle rydym ni’n dod i mewn.
Trwy ein hyfforddiant, datblygir hyder staff er mwyn i ni allu cael sgyrsiau agored am addasrwydd i’r oedran, yr heriau mae plant a phobl ifainc yn eu hwynebu, a’r cyfleoedd i wneud y cwricwlwm yn fwy cynhwysol.
Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys:
-
Ystyr geirfa a chysyniadau LHDTC+
-
Diogeli a herio bwlio LHDTC+
-
Datblygu cwricwlwm addas i’r oedran a’r cyfnod
-
Sut i adnabod a chynnwys modelau rôl uchel eu hansawdd
-
Testunau o ansawdd ar draws y cwricwlwm
-
Camau pellach am barhau i ddatblygu cwricwlwm cynhwysol
Rydym ni am i’r holl staff fod yn fwy hyderus am sut i greu cwricwlwm cynhwysol ac rydym ni’n edrych ymlaen at weithio gyda chi ar hyn.
Cysylltwch â ni isod i ddysgu mwy.

