Amdanom ni
Sefydliad dim-er-elw ydy More Than Flags and Rainbows sydd am wneud pob ysgol, coleg a chymuned yn ofodau mwy cynhwysol. Sefydlwyd gan Ian Timbrell, mae gennym ni brofiad o weithio gydag ysgolion a sefydliadau ar draws y DU ac rydym ni wedi darparu hyfforddiant mewn person ac ar-lein i filoedd o athrawon, yn ogystal â rhedeg rhwydwaith teuluoedd mabwysiadu a LHDTC+ llwyddiannus.
Mae gan ein staff ystod o arbenigeddau gan gynnwys gweithio mewn addysg gynradd, uwchradd a thrydyddol, ysgolion arbennig, Unedau Cyfeirio Disgyblion ac ym meysydd corfforaethol. Trwy weithio gyda ni, byddwn ni’n sicrhau eich bod chi’n cael y bobl sydd eu hangen i’ch helpu chi ar eich taith.
Rydym ni’n deall bod hyn yn gyfnod heriol ac felly rydym ni’n defnyddio arian grant a chodi arian trwy sefydliadau partner i gadw costau’n isel i ysgolion a sefydliadau ac i brofi rhai gwasanaethau yn rhad ac am ddim.
Rydym ni’n methu aros at weithio gyda chi ac yn edrych ymlaen at bartneru ar y daith i wneud cymunedau’n gynhwysol i bawb.

Am Ian, ein Sefydlydd
Rydw i wedi gweithio mewn addysg ers amser maith, ond mae fy rheswm dros wneud y gwaith hwn yn mynd ymhellach yn ôl nag unrhyw swydd rydw i wedi’i chael.
Pan oeddwn i yn yr ysgol, ces i fy mwlio. Rydw i’n deall sut deimlad ydy cerdded i mewn i ystafell ddosbarth a ddim yn teimlo’n ddiogel, ddim yn teimlo’n weladwy, a ddim yn teimlo eich bod chi’n perthyn. Mae hynny’n aros gyda chi. Mae’n rhan fawr o pam rydw i’n gofalu cymaint am y gwaith a wnaf i nawr.
Rydw i am i ysgolion fod yn llefydd lle does dim un plentyn sy’n teimlo fel hynny, lle mae pob person ifanc yn teimlo eu bod nhw’n cael eu derbyn am bwy ydyn nhw ac yn gwybod eu bod nhw o bwys.
Rydw i hefyd yn dad i fy mab 12 oed bendigedig a fabwysiadom ni ddeng mlynedd yn ôl. Trwy fod yn rhiant iddo fe, mae fy nghredo wedi cryfhau bod pob plentyn yn haeddu teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi, eu deall ac yn falch o bwy ydyn nhw.
Diolch am gymryd yr amser i ddarllen hyn ac am ystyried gweithio gyda ni. Mae popeth a wnawn ni am helpu creu ysgolion a chymunedau lle mae pob plentyn yn teimlo fel eu bod nhw’n perthyn.
Ian
Cwrdd â'r Tîm
Ein haelodau o staff

Sefydlydd a chyfarwyddwr gweithredol
Ian Timbrell
Bywgraffiad yn dod yn fuan.

Cydlynydd Rhwydwaith Mabwysiadu a LHDTC+
Rhiannon Lewis
Bywgraffiad yn dod yn fuan.

Hwylusydd Ysgolion Cymraeg
Sam Brown
Bywgraffiad yn dod yn fuan.
Ein cyfarwyddwyr gwirfoddol

Cyfarwyddwr anweithredol
Rhys Goode
Bywgraffiad yn dod yn fuan.

Cyfarwyddwraig anweithredol
Rachel White
Bywgraffiad yn dod yn fuan.
