Cwestiynau Cyffredin Fforwm Cymraeg MTFAR
Oes cost?
Nac oes, does dim cost i chi fod yn rhan o’r prosiect hwn o gwbl.
Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan The Henry Smith Foundation a’r LGBT Consortium.
Pwy sy’n gallu cymryd rhan?
Mae croeso i ysgolion uwchradd Cymraeg eu hiaith, colegau 16-18 oed a grwpiau ieuenctid ar gyfer pobl ifainc 11 oed a hŷn ymuno â’r Fforwm Cymraeg.
Y prif beth ydy bod y bobl ifainc yn gallu siarad Cymraeg.
Yn anffodus, gan mai prosiect peilot ydy hwn, does gennym ni ddim lle i ysgolion cynradd ar hyn o bryd.
Oes angen grŵp LHDTC+ i gymryd rhan?
Nac oes. Does dim angen grŵp LHDTC+ neu gynhwysol i gymryd rhan.
Rydym niam glywed barnau amrywiaeth o bobl ifainc, er enghraifft y rheiny sydd wedi’u hethol, megis y cyngor myfyrwyr, neu bobl ifainc eraill a ddewisir gennych chi.
Oes rhaid i gyfranogwyr uniaethu'n LHDTC+?
Nac oes, rydym ni am glywed profiadau a syniadau gan amrywiaeth o bobl ifainc, serch hynny mae'n rhaid cofio mai trafod materon a chynhwysiant LHDTC+ mewn ysgolion ydy nod y Fforwm Cymraeg.
Oes fersiwn Saesneg?
Nac oes. Nod y Fforwm Cymraeg ydy cysylltu pobl ifainc Cymraeg eu hiaith gyda’r bwriad o wella cynhwysiant mewn ysgolion Cymraeg.
Fodd bynnag, gall ysgolion dwyieithog gymryd rhan trwy anfon grŵp o siaradwyr Cymraeg ifainc.
Faint o amser fydd yn ei gymryd?
Bydd sesiwn cychwynnol gyda'ch pobl ifainc yn para am hyd at un awr, ac yna bydd disgwyl i’ch grŵp fynychu cyfarfodydd 30 munud ar-lein unwaith bob hanner tymor tan Dymor y Gwanwyn 2027.
Bydd yr adnodd terfynol yn cael eu cyhoedd erbyn Tymor yr Haf 2027.
Beth fydd yn digwydd ar ddiwedd blwyddyn gychwynnol y Fforwm Cymraeg?
Ar ôl y flwyddyn gychwynnol, byddwn ni’n creu adnodd defnyddiol sy’n seiliedig ar yr hyn mae’r bobl ifainc wedi’u dweud yn ein cyfarfodydd.
Yn ogystal rydym ni am drefnu digwyddiad mewn person i’r bobl ifainc allu dod ynghyd i lansio’r adnodd hwn ar ddiwedd y prosiect.
Sut bydd ein hysgol yn elwa?
Trwy fynychu’r cyfarfodydd ar-lein gydag ysgolion eraill, bydd eich pobl ifainc yn helpu llunio adnodd fydd yn cael eu dosbarthu i’ch ysgol am ddim ar ddiwedd y prosiect.
Hefyd, bydd gennych chi ostyngiadau arbennig ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau eraill MTFAR (Gweler tudalen y Fforwm Cymraeg am wybodaeth bellach).
Oes rhaid bod yn rhan o’r prosiect o’r dechrau cyntaf?
Nac oes. Mae croeso i chi ymuno â’r prosiect hwn ar unrhyw adeg cyn dydd Gwener y 19eg o fis Chwefror 2027.
Ddim yn gweld ateb i’ch cwestiwn chi yma? Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen isod.
