Zac a Jac
Cathy Jenkins

Llyfr am gyfeillgarwch a phêl-droed yw ‘Zac a Jac’, ond sydd â neges bwysig i ddarllenwyr ifanc wrth wraidd y stori. Mae’n archwilio peryglon rhagfarnau sy’n cael eu trosglwyddo’n rhy aml o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae Jac, sy’n naw oed, yn gweld ei dad fel arwr, ond pan fydd Jac yn ymuno â thîm pêl-droed lleol gyda’i ffrind gorau Zac, mae pethau’n dechrau troi braidd yn rhyfedd gartref. Ond mae ymweliad grŵp o bêl-droedwyr proffesiynol â’r ysgol i drafod hiliaeth yn gwneud i Jac sylweddoli efallai beth yw problem ei dad. Ar ôl tro trawmatig o ddigwyddiadau, mae Jac yn dysgu am yr anawsterau a wynebwyd gan nain a thaid Zac a chenhedlaeth Windrush ac mae’n benderfynol o helpu i newid pethau mewn cymdeithas, gan ddechrau gyda’i deulu ei hun.
Gyda darluniadau gan Monique Steele.
Nodwedd:
Race
Tagiau:
