top of page

Y Ransh ym Mhen Draw’r Byd

Emma Bettridge

Mae Nel Davies wedi ei diarddel o’r ysgol ac mae hi ar fws sy’n mynd i ganol nunlle yng Nghymru. Dyma’r Ransh ym Mhen Draw’r Byd – salŵn cyfle olaf i geffylau sydd wedi gweld dyddiau gwell a phobl ifanc styfnig. Gan adael ei chariad cyntaf, Soph, mae Nel yn cael ei hyrddio i ganol amgylchedd newydd gyda chriw o bobl ifanc eraill sydd ar goll braidd ac yn ceisio darganfod pwy ydyn nhw. Mae Nel yn cychwyn ar antur annisgwyl yng nghysgod y mynyddoedd. Mae hyn yn cynnwys chwilio am geffyl wedi’i ddwyn a chysylltiad diddorol â merch ddirgel o’r enw Ffran sy’n byw yn y ransh. Wrth i Nel lywio’i ffordd drwy’r ardal ddieithr hon a holl heriau’r ransh, mae’n ffeindio’i hun ar daith o hunanddarganfod yn y Gymru wledig.

Addasiad Cymraeg gan Sioned Erin Hughes o "The Ranch at the End of the World" gan Emma Bettridge, gyda lluniau gan Josephine Birch.

Nodwedd:

Sexual Orientation

Tagiau:

Prynu Yma
bottom of page