top of page

Y Pafi a’i Ehedydd

Siobhan Dowd

Mae Jim a’i deulu o Deithwyr Gwyddelig newydd setlo yn nhref Dundray yn Iwerddon. Nid oes croeso iddyn nhw ymysg trigolion gelyniaethus y dref, neu’r ‘byffers’, a phan orfodir Jim a’i gefndryd i fynychu’r ysgol uwchradd leol, rhaid iddyn nhw wynebu plant sy’n galw enwau arnyn nhw, yn eu hesgymuno a’u bwlio. Ag yntau’n methu â darllen gair, mae Jim yn gweld y gwersi yn ddiflas a syrffedus, ac mae’n dysgu goroesi sen yr athrawon trwy ymddwyn yn anweledig.

Yna, mae’n cwrdd â Kit, merch o’i ddosbarth sydd ar y cyrion am resymau gwahanol, ac mae’r ddau yn datblygu cyfeillgarwch dyner. Mae Kit, yr ‘ehedydd’, yn dangos empathi a charedigrwydd tuag at Jim mewn byd llawn rhagfarn a chasineb, ac yn ei ddysgu i ddarllen yn eu cuddfan gyfrinachol ymhell o lygaid pawb. Ond wrth i Jim ddechrau dychmygu dyfodol mwy gobeithiol yn Dundray, ymosoda’r bwlis yn ddidrugaredd ar ei gefnder iau, a does gan ei deulu ddim dewis ond codi pac unwaith eto.

Addasiad Cymraeg gan Gwenna Williams, gyda darluniadau gan Emma Shoard.

Nodwedd:

Race

Tagiau:

Prynu Yma
bottom of page