Y Lliwiau i Gyd
Casia Wiliam

Yn 2021 dadorchuddiwyd cerflun arbennig o Betty Campbell yng Nghaerdydd; prifathrawes ddu gyntaf Cymru. Ond pwy oedd Betty Campbell go iawn? Sut blentyndod gafodd hi yng nghymdeithas fywiog Bae Teigr, yn nociau Caerdydd yn y 1930au? A pha brofiadau siapiodd hi fel person?
Yn y nofel hon sy'n gwau ffaith a ffuglen cawn ddysgu rhagor am Betty a'i theulu, ei chyfnod fel ffoadur yn Aberdâr, ei phrofiadau yn yr ysgol a'i thaith ryfeddol wedi hynny.
Gyda digon o hanesion a dogn da o hiwmor, daw Betty yn fyw rhwng dau glawr, a chawn gip ar y person cryf a phenderfynol a ysbrydolodd sawl cenhedlaeth o blant y dociau a thu hwnt.
Mae bywyd ysbrydoledig Betty Campbell MBE (1934–2017), brodor o Dre-Biwt a phrifathrawes ddu gyntaf Cymru, yn stori werth ei darllen.
Gyda lluniau gan Lewis Campbell.
Nodwedd:
Race
Tagiau:
