top of page

Y Byddarwr

Cece Bell

Mae dechrau mewn ysgol newydd yn frawychus, yn enwedig os oes gen ti gymhorthydd clyw anferthol ar dy frest! Yn ei hen ysgol, roedd pawb yn nosbarth Cece yn fyddar. Yn fan hyn, mae hi'n wahanol. Mae'r plant eraill yn syllu ar y Glust Ffonig, siŵr o fod, y cymhorthydd pwerus a fydd yn helpu iddi glywed ei hathrawes. Trueni ei fod hefyd yn debygol o wthio ffrindiau posib i ffwrdd.

Yna mae Cece’n darganfod rhywbeth rhyfeddol. Nid yn y dosbarth yn unig mae hi’n gallu clywed ei hathrawes efo’r Glust Ffonig, ond ble bynnag mae’r athrawes yn yr ysgol - yn y coridor... yn y stafell athrawon... yn y stafell ymolchi! Dyma bŵer go iawn. Neu’r archbŵer, hyd yn oed! Mae Cece’n troi yn archarwr o’r enw Y Byddarwr, y Gwrandäwr ar Bawb. Ond y peth rhyfedd am fod yn archarwr ydi mai dim ond ffordd arall o deimlo’n wahanol ydi o... ac yn unig. A fydd Cece’n gallu defnyddio ei phwerau i ffeindio’r un peth mae hi eisiau yn fwy na dim, sef ffrind go iawn?

Addasiad Cymraeg gan Megan Angharad Hunter o "El Deafo" gan Cece Bell.

Nodwedd:

Disability

Tagiau:

Prynu Yma
bottom of page