Un o Blant y Windrush
Benjamin Zephaniah

Yn y stori antur drawiadol hon, mae Benjamin Zephaniah yn dangos inni sut beth oedd bod yn blentyn cenhedlaeth y Windrush.
Caiff Leonard sioc pan fydd yn cyrraedd gyda'i fam ym mhorthladd Southampton. Mae'i dad yn ddieithryn iddo; mae'n oer a dyw hyd yn oed bwyd Jamaicaidd ddim yn blasu'r un fath ag y gwnâi adref yn Maroon Town. Ond mae’i rieni wedi dod ag ef yma i geisio bywyd gwell. Felly mae Leonard yn gwneud ei orau i beidio â chwyno, i wneud ffrindiau newydd, i wneud yn dda yn yr ysgol – hyd yn oed pan fydd pobl yn ei frifo gyda’u geiriau a’u dyrnau.
Sut gall bachgen mor bell oddi cartref ddysgu mwynhau ei fywyd newydd pan fo cymaint o bethau yn cyfrif yn ei erbyn?
Addasiad Cymraeg gan Rhys Iorweth o "Windrush Child" gan Benjamin Zephaniah.
Nodwedd:
Race
Tagiau:
