Pan Fydd Drysau’n Cau
Miriam Halahmy

Mae gan Josie gyfrinach – mae ei mam yn hordiwr obsesiynol, er nad yw’n cyfaddef hynny wrthi hi ei hun nac wrth Josie. Mae eu cartref dan eu sang â thrugareddau diwerth, a dydy Josie erioed wedi gallu gwahodd ffrind draw i’r tŷ. Nid bod ganddi ffrindiau i’w gwahodd. Mae gan Tasha gyfrinach hefyd – er bod ganddi’r holl bethau materol y gallai ddymuno eu cael, dydy hi ddim yn hapus gartref. Mae Chaz, cariad newydd ei mam, yn dweud a gwneud pethau awgrymog pan fyddan nhw ar eu pennau eu hunain ac mae hi’n teimlo’n anghyfforddus iawn yn ei gwmni. Pan geisia sôn am ei phryderon wrth ei mam, dydy honno ddim eisiau gwybod, a does gan Tasha unman i droi.
Er nad yw’r ddwy ferch bymtheg oed yn hoff o’i gilydd yn yr ysgol, does gan Tasha ddim dewis un noson ond curo ar ddrws Josie wedi iddi ffoi o’i chartref peryglus. Erbyn hyn mae mam Josie yn y carchar am fethu â thalu dyled, ac mae’r ddwy ferch ar eu pennau eu hunain yn y tŷ cyfyng, gorlawn, afiach. O dipyn i beth, a’r ddwy’n wynebu cael eu gwneud yn ddigartref, mae Josie a Tasha yn rhannu eu cyfrinachau a’u heriau yn agored â’i gilydd, gan gefnogi ei gilydd i wynebu eu cywilydd, eu heuogrwydd a’u hofnau.
Addasiad Cymraeg gan Rhys Iorwerth o "Behind Closed Doors" gan Miriam Halahmy.
Nodwedd:
Mental Health
Tagiau:
