Melys, Moes... Mangos
Kareen Getten

Portread o fywyd mewn pentref bach ar ynys yn y Caribî sydd yn y llyfr. Mae hi’n stori ddirgelwch gyffrous, wedi ei hysbrydoli gan brofiadau plentyndod yr awdur. Prif gymeriad y stori yw Clara, sy’n awyddus i gofio’r hyn ddigwyddodd iddi yn ystod storm yr haf blaenorol. Mae Clara a’i ffrind Gaynah wedi byw bywyd tawel ym mhentref Sycamore, gan chwarae’n rhydd o amgylch yr ardal a bwyta mangos aeddfed oddi ar y coed. Ond pan ddaw merch newydd o’r enw Rudy i fyw yno o Gaerdydd mae pethau’n dechrau newid i Clara. Wrth i’r haf a thymor y stormydd gyrraedd ei anterth, daw atgofion Clara o’r hyn ddigwyddodd yr haf blaenorol yn eu hôl yn raddol. Mae tro annisgwyl ar ddiwedd y stori wrth i’r gwirionedd gael ei ddatgelu.
Addasiad Cymraeg gan Gwenno Hughes o "When Life Gives You Mangoes" gan Kareen Getten.
Nodwedd:
Race
Tagiau:
