top of page

Gormod o Ddyn

Malorie Blackman

Mae Dante newydd gwblhau ei arholiadau Lefel A, ac mae ganddo freuddwydion mawr am fynd i’r brifysgol a dod yn newyddiadurwr. Ym mhennod agoriadol y nofel, arhosa’n eiddgar am y postmon a’i ganlyniadau Lefel A. Ond pan gana cloch y drws ffrynt, nid y postmon sydd yno ond Melanie, cyn-gariad i Dante. Mae gan Melanie fabi – merch fach ddeg mis oed o’r enw Emma. Mae Dante’n dysgu mai ef yw tad Emma, er nad oedd ganddo syniad am ei bodolaeth, cyn i Melanie adael Emma a diflannu, gan adael Dante i ofalu amdani gyda chymorth ei dad a’i frawd.

Dilynwn siwrnai Dante wrth iddo roi’r gorau i’w freuddwydion a derbyn ei gyfrifoldebau fel tad ifanc sengl. Yn gefnlen i’r stori mae datblygiad perthynas Dante â’i dad a’i frawd, galar y brodyr am eu mam, siwrnai Dante a’i dad at dderbyn bod Adam yn hoyw, a’r rhagfarn ddyddiol a wyneba Adam yn sgil ei rywioldeb.

Addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros o "Boys Don't Cry" gan Malorie Blackman.

Nodwedd:

Challenging Gender Stereotypes

Tagiau:

Prynu Yma
bottom of page