top of page

Gŵyl y Gaeaf

Rebecca Wilson

Mae’r stori yn cyflwyno darllenwyr i bum llwyth hudolus sy’n dod at ei gilydd i ddathlu Gŵyl y Gaeaf, amser o heddwch a chydweithrediad, bob blwyddyn. Wrth wraidd y stori mae’r cyfeillgarwch annhebygol rhwng Olive, yr ellyll, a Dewi Draig. Ar ddiwrnod y dathliad, mae pob llwyth yn dod â thraddodiad unigryw i’r ŵyl, ond mae dreigiau wedi’u gwahardd o’r dathliad am filiwn o leuadau oherwydd digwyddiadau’r gorffennol a hen gyfrinach. Mae presenoldeb Dewi yng Ngŵyl y Gaeaf yn codi ofn a chasineb ymhlith y bobl sydd yno. Ond mae cyfeillgarwch Dewi Draig ac Olive yn herio rhagfarnau hirsefydlog, a newidiadau’n cael eu cyflwyno i Ŵyl y Gaeaf i sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys. Tynnir sylw at bwysigrwydd sefyll dros yr hyn sy’n iawn, cofleidio gwahaniaethau a meithrin dealltwriaeth.

Gyda lluniau gan Wayne Harria.

Nodwedd:

All Diversity

Tagiau:

Prynu Yma
bottom of page