top of page

Tu Hwnt i'r Llygaid

Penny Joelson

Merch ifanc bymtheg oed ag amhariad ar ei golwg yw Lois. Mae hi wrth ei bodd â chelf a ffotograffiaeth ac yn mwynhau mynd allan i dynnu lluniau gyda’i chamera yng nghwmni ei chi tywys, Samson. Un diwrnod, wrth dynnu lluniau ar lwybr tawel ar ei ffordd adref o’r ysgol, daw Lois ar draws Telor, bachgen a oedd yn arfer bod yn ei dosbarth, ond doedd neb wedi ei weld ers chwe mis. Gofynna Telor yn daer iddi wneud ffafr ag ef – mynd â llythyr cyfrinachol at Kyle ei ffrind – cyn diflannu. Mae’r cyfarfyddiad hwn yn newid bywyd Lois yn llwyr, wrth iddi hi a Kyle geisio dod o hyd i Telor a datrys dirgelwch ei ddiflaniad. Daw’n amlwg fod Telor mewn trwbl mawr, a chyn hir mae Lois, Kyle a Samson yn rhan o isfyd peryglus, treisgar a brawychus wrth iddyn nhw ddysgu bod Telor yn cael ei ddefnyddio gan gang llinellau cyffuriau.

Addasiad Cymraeg gan Gwenno Hughes o "Things the Eyes Can't See" gan Penny Joelson.

Characteristic:

Disability

Tags:

Buy Here
bottom of page