Hanes fy Hynodrwydd
Chloë Heuch

Mae ‘Hanes fy Hynodrwydd’ yn dilyn bywydau dau o blant Blwyddyn 7, Miri ac Onyx, wrth iddyn nhw lywio’u ffordd trwy dymor cyntaf yr ysgol uwchradd. Mae Miri yn awtistig ac Onyx yn anneuaidd. Mae’r stori’n ymchwilio i’w brwydrau gyda’r glasoed, cyfeillgarwch, anawsterau yn eu bywydau teuluol, gwahaniaethu a bwlio. Mae Miri yn teimlo’n ynysig, ac mae ei chyfoedion a rhai o’i hathrawon yn ei chamddeall. Mae hi’n dod o hyd i gysur yn ei chyfeillgarwch ag Onyx, sy’n ei gwerthfawrogi am bwy yw hi. Gyda’i gilydd maen nhw’n crwydro hen ysbyty meddwl segur o Oes Fictoria, sy’n dod yn symbol o’u taith i dderbyn eu gwahaniaethau eu hunain. Mae’r stori hon yn bortread o fywyd gydag awtistiaeth a’r heriau o fod yn niwroamrywiol. Mae’n tynnu sylw at gadernid Miri a’i hymdrechion i ddod o hyd i’w llais a’i lle yn y byd.
Addasiad Gymraeg gan Mared Llwyd o "A History of My Weird" gan Chloë Heuch.
Characteristic:
Disability
Tags:
