top of page

Fi, Fy Nhad a Phen Draw’r Enfys

Benjamin Dean

Prif gymeriad y llyfr yw Arwel Allbright, sy’n ddeuddeg oed ac yn gwybod dau beth yn sicr:

1. Mae ei fam a’i dad yn casáu ei gilydd, ac mae'n amhosibl cuddio'r peth mwyach.

2. Maen nhw'n cadw cyfrinach oddi wrtho, ond dydy o ddim yn gwybod beth.

Yr unig beth mae e ei eisiau yw i bopeth fynd yn ôl i sut oedden nhw dri mis ynghynt, pan oedd ei rieni’n hapus ac yn dal i fyw gyda’i gilydd. Pan fydd Arwel yn gweld taflen grychlyd a lliwgar yn disgyn o boced ei dad, mae’n meddwl efallai ei fod wedi dod o hyd i’r ateb. Ond mae’n ymddangos fod yr ateb ar ben draw’r enfys, felly mae'n penderfynu mynd ar antur. Gyda’i ffrindiau gorau, Del a Seb, aiff Arwel ar siwrne fythgofiadwy i geisio datrys problemau ei deulu, gan dorri ambell reol ar hyd y daith.

Addasiad Cymraeg gan Llinos Dafydd o "Me, My Dad and the Other End of the Rainbow" gan Benjamin Dean, gyda lluniau gan Sandhya Prabhat.

Characteristic:

Sexual Orientation

Tags:

Buy Here
bottom of page