top of page
Diwali Binny
Thrity Umrigar

Mae’r stori’n dilyn Binny wrth iddi baratoi i ddathlu Diwali, Gŵyl y Goleuni, gyda’i theulu a’i chymuned. Mae Binny wedi cynllunio gyda’i hathro y bydd hi’n rhannu ei harferion Diwali gyda’r dosbarth, ond pan ddaw’r amser i wneud hynny mae hi’n colli ei hyder. Gydag anogaeth garedig gan ei hathro a thrwy gofio geiriau ei mam, mae hyder Binny yn cynyddu. Mae hi’n rhannu arferion, bwyd ac egwyddorion y dathliad gyda’i chyfoedion ac yn dangos balchder yn ei chrefydd a’i diwylliant. Mae’r stori’n tynnu sylw at gysylltiadau teuluol a llawenydd rhannu traddodiadau gydag eraill.
Addasiad Cymraeg gan Casia Wiliam o "Binny's Diwali" gan Thrity Umrigar, gyda lluniau gan Nidhi Chanani.
Characteristic:
Religion
Tags:
bottom of page
