Daear Dyner
Sita Brahmachari

Merch un ar ddeg oed yw Laila, aelod ieuengaf y teulu Levenson, ac mae’n ei chael hi’n anodd ymdopi â sawl newid mawr yn ei bywyd. Wrth iddi baratoi i symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd, mae ei brawd a’i chwaer hŷn yn gadael cartref am y tro cyntaf. Mae Kez, ei ffrind gorau o’r ysgol gynradd sy’n defnyddio cadair olwyn, yn crefu am annibyniaeth ac eisiau ymbellhau a gwneud ffrindiau newydd. Mae hyn oll yn peri i Laila deimlo’n unig ac yn ansicr o’i hunaniaeth o fewn ei theulu a’i chymuned. Ond caiff Laila ei hysgogi i weithredu dros yr hyn mae hi’n ei gredu, fel ei nain yn y gorffennol, a dilynwn ei thaith wrth iddi ddarganfod yr hyn sy’n bwysig iddi, gwneud ffrindiau newydd o gefndiroedd cwbl wahanol, plethu hen berthnasau â rhai newydd, a dod o hyd i’w llais.
Addasiad Cymraeg gan Meinir Wyn Edwards o "Tender Earth" gan Sita Brahmachari.
Characteristic:
Race
Tags:
